Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5567


195

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.25

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Goedwigaeth yng Nghymru

Dechreuodd yr eitem am 14.55

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Strategaeth Dwristiaeth -TYNNWYD YN ÔL

Tynnwyd yr eitem yn ôl.

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol

Dechreuodd yr eitem am 15.32

</AI5>

<AI6>

6       Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoli'r Risg o Lifogydd ac Erydu Arfordirol

Dechreuodd yr eitem am 16.11

</AI6>

<AI7>

7       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach

Dechreuodd yr eitem am 16.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6986 - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

5

48

Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

8       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol)

Dechreuodd yr eitem am 17.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6987 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2018 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

5

47

Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

Cynnig i Ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau i'r Grwpiau Plaid

Dechreuodd yr eitem am 17.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6991 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2R ac 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp gwleidyddol y caiff y cadeirydd pwyllgor ei ethol ohono fydd fel a ganlyn:

(i)   Y Pwyllgor Deisebau – Ceidwadwyr Cymreig.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

4

48

 

Oherwydd y cafodd y Cynnig ei gefnogi gan ddwy ran o dair o’r Aelodau a oedd yn pleidleisio, derbyniwyd y Cynnig.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.49

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.51

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 13 Mawrth 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>